Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2013 i'w hateb ar 20 Tachwedd 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am newidiadau arfaethedig ym Mwrdd iechyd Hywel Dda? OAQ(4)0358(HSS)W

 

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhoi organau mewn ysgolion? OAQ(4)0362(HSS)

 

3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru? OAQ(4)0353(HSS)

 

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Byrddau Iechyd yn defnyddio adnoddau'n effeithiol i'r eithaf mewn Gofal Sylfaenol? OAQ(4)0355(HSS)

 

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0360(HSS)W

 

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau i bobl sy'n byw â dementia ? OAQ(4)0351(HSS)

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0346(HSS)

 

8. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthu'r brechlyn ffliw yn Nelyn? OAQ(4)0356(HSS)

 

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau a gynhaliwyd i fynd i'r afael ag effaith cyffuriau anterth cyfreithlon? OAQ(4)0357(HSS)

 

10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Hywel Dda ar gyfer triniaeth orthopedig y gaeaf hwn? OAQ(4)0361(HSS)

 

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cardiaidd yn Ysbyty Treforys? OAQ(4)0345(HSS)

 

12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gwynion y GIG? OAQ(4)0350(HSS)

 

13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw fonitro a gwerthuso a wnaed ganddo o benderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol ers iddo gael ei benodi? OAQ(4)0349(HSS)

 

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru? OAQ(4)0348(HSS)

 

15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd mamau beichiog? OAQ(4)0347(HSS)

 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

 

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda Swyddogion y Gyfraith ynglŷn ag Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006? OAQ(4)0053(CG)W

 

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drefniadau sydd mewn lle i fesur llwyddiant y grant Cymunedau yn Gyntaf ychwanegol a roddwyd yn ddiweddar i wella cyrhaeddiad mewn ysgolion?  OAQ(4)0107(CTP)W

 

2. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau sydd ar gael i bobl yng Nghymru? OAQ(4)0103(CTP)

 

3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0104(CTP) TYNNWYD YN ÔL

 

4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynorthwyo twf undebau credyd yng nghyd-destun caledi? OAQ(4)0099(CTP)

 

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella llythrennedd ariannol mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(4)0098(CTP)

 

6. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y Grant Cymorth i Gyflogwyr wrth gynorthwyo cyn-weithwyr Remploy yn ôl i waith? OAQ(4)0101(CTP)

 

7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar i ddod â chymunedau at ei gilydd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0091(CTP)

 

8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw sylwadau y mae wedi eu gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn ag effaith diwygio lles yng Nghymru? OAQ(4)0089(CTP)

 

9. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Cymunedau yn Gyntaf o ran cynorthwyo pobl ifanc i gael gwaith? OAQ(4)0090(CTP)

 

10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am oblygiadau polisïau mewnfudo'r DU i Gymru? OAQ(4)0095(CTP)

 

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datganiad Creu Cymunedau Cryf a wnaeth yn gynharach yn y flwyddyn? OAQ(4)0105(CTP)

 

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0102(CTP)

 

13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â thlodi? OAQ(4)0106(CTP) TYNNWYD YN ÔL

 

14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy? OAQ(4)0097(CTP)

 

15. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o ran gwneud penderfyniadau strategol yn Llywodraeth Cymru? OAQ(4)093(HSS)